Cyhoeddiadau

  • SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR
  • Image Gweld ar-lein Lawrlwytho
    Datblygu a rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr - Canllaw arfer dda ar gyfer darpariaeth chwarae a'r blynyddoedd cynnar

    Datblygwyd Canllaw arfer dda ar gyfer darpariaeth chwarae a’r blynyddoedd cynnar: Datblygu a rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan Chwarae Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect Y Daith Ymlaen, Achub y Plant.

    Mae’r canllaw arfer dda wedi ei gynllunio ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am, neu sydd ynghlwm â, rheoli neu ddatblygu safleoedd newydd, neu safleoedd sy’n bodoli eisoes, ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

    Mae wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth clir a chryno er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i ystyried a chynnwys darpariaeth chwarae a’r blynyddoedd cynnar tra’n datblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd, a rhai sy’n bodoli eisoes. Mae’n cynnwys gwybodaeth neilltuol a fwriedir i’n helpu i ddeall a mynd i’r afael â meysydd penodol sy’n peri pryder. Mae hefyd yn darparu offer ymarferol, cam-wrth-gam, templedi a modelau o ddarpariaeth llwyddiannus.

    Fe wnaethom sefydlu ac ymgynghori â gr?p ffocws o ddarparwyr yn ystod y broses ddrafftio a defnyddio eu profiadau i ddatblygu’r modelau ac i fynd i’r afael â’r materion pwysicaf. Gofynnodd Y Daith Ymlaen, yn eu cyfarfodydd fforwm rhanbarthol, i blant a phobl ifanc am eu syniadau ar gyfer gwella cyfleusterau chwarae a hamdden ar safleoedd.

Cofrestru i dderbyn y diweddaraf ar chwarae plant yn rheolaidd a gwaith chwarae

Communication Preferences

Please state how you would prefer to be contacted.
To view our privacy policy, click here.