Mae grwpiau a mudiadau cymunedol yn cael eu hannog i gofrestru i Siarter newydd i sicrhau diogelwch parciau a mannau gwyrdd y DU. Lansiwyd ‘Charter for Parks’ gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Fields in Trust i alw ar arweinwyr gwleidyddol o Gymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon i hyrwyddo a diogelu parciau a mannau gwyrdd.
Mae'r Siarter yn dweud y dylai rheolaeth mannau gwyrdd fod yn ddyletswydd gyfreithiol ac mae’n galw ar wleidyddion i sicrhau adnoddau hirdymor digonol ar gyfer cynnal a chadw, rheolaeth a gwelliannau a chydnabod hawl pob dinesydd i fod o fewn pellter cerdded i fannau gwyrdd o ansawdd da.
Dywed Dave Morris, cadeirydd y National Federation of Parks and Green Spaces:
'Mae amser yn rhedeg allan i barciau lleol ledled y DU. Mae toriadau parhaus i staffio a chynnal a chadw yn eu gadael yn agored i esgeulustod a dirywiad, neu hyd yn oed i gael eu gwerthu.’