Bydd y cymhwyster Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith (P3) yn paratoi gweithwyr chwarae i weithio mewn lleoliadau gwaith chwarae drwy gydol y flwyddyn ac mae’n ehangu ar y wybodaeth a enillwyd yn y Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP). Sylwer bod cwblhau L2APP yn ofyniad mynediad i gael eich derbyn ar gwrs Tystysgrif Lefel 2 P3.
Mae’r cymhwyster yn cyflawni’r gofynion ar gyfer staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gwaith chwarae sydd wedi eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Mae Tystysgrif Lefel 2 P3 yn cynnwys pum uned:
- Ymarfer myfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus
- Chwarae a datblygu
- Sgiliau gwaith chwarae ymarferol
- Diogelu mewn cyd-destun gwaith chwarae
- Gweithio gyda phobl eraill
Mae’r unedau hyn yn ychwanegol i’r ddau y bydd dysgwyr wedi eu cwblhau yn ystod L2APP.
Mae ‘Sgiliau gwaith chwarae ymarferol’ yn uned arloesol sy’n cynnwys sgiliau cynnau tân ac adeiladu strwythurau syml.
Trosglwyddir Tystysgrif Lefel 2 P3 dros chwe diwrnod gydag amser ychwanegol i ddysgwyr gwblhau asesiadau ac oriau ymarfer.
Cymryd rhan
I gofrestru eich diddordeb mewn cyrsiau Tystysgrif Lefel 2 P3 gaiff eu rhedeg gan ein partner Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, cwblhewch ffurflen gais.
Er mwyn sicrhau ansawdd cadarn ar gyfer y cymhwyster newydd hwn, bydd Agored Cymru ond yn cymeradwyo canolfannau i drosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae os ydynt wedi arwyddo Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer sicrhau ansawdd gyda Chwarae Cymru.
Os hoffech fwy o wybodaeth ar gael mynediad i gymwysterau gwaith chwarae neu ar ddod yn ganolfan drosglwyddo, mae croeso ichi ein e-bostio.