Mae’r cymhwyster Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith (P3) wedi ei anelu at uwch-weithwyr chwarae, personau â chyfrifoldeb a phersonau cofrestredig sy’n gweithio mewn lleoliadau gwaith chwarae drwy gydol y flwyddyn ac mae’n ehangu ar y wybodaeth a enillwyd yn Nhystysgrif Lefel 2 P3.
Mae’r cymhwyster yn cyflawni’r gofynion ar gyfer staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gwaith chwarae sydd wedi eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Mae Diploma Lefel 3 P3 yn cynnwys naw uned:
- Ymarfer Myfyriol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Deddfwriaeth a Pholisi Gwaith Chwarae
- Rheoli
- Monitro a Gwerthuso
- Cynllunio ar gyfer chwarae
- Sgiliau gwaith chwarae ymarferol
- Gwaith chwarae a datblygu cymunedol
- Rheoli risg
- Gweithio gyda Theuluoedd.
Mae’r unedau hyn yn ychwanegol i’r saith a gwblhawyd yn ystod L2APP a Thystysgrif Lefel 2 P3.
Trosglwyddir Diploma Lefel 3 P3 dros naw niwrnod gydag amser ychwanegol i ddysgwyr gwblhau asesiadau ac oriau ymarfer.
Cymryd rhan
I gofrestru eich diddordeb mewn cyrsiau Tystysgrif Lefel 2 P3 gaiff eu rhedeg gan ein partner Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, cwblhewch ffurflen gais.
Er mwyn sicrhau ansawdd cadarn ar gyfer y cymhwyster newydd hwn, bydd Agored Cymru ond yn cymeradwyo canolfannau i drosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae os ydynt wedi arwyddo Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer sicrhau ansawdd gyda Chwarae Cymru.
Os hoffech fwy o wybodaeth ar gael mynediad i gymwysterau gwaith chwarae neu ar ddod yn ganolfan drosglwyddo, mae croeso ichi ein e-bostio.