Amddifadiad Chwarae yw'r enw a roddir i'r syniad y gall peidio chwarae amddifadu plant o brofiadau sy'n hanfodol i'w datblygiad ac y gall arwain at ddioddef o anabledd cymdeithasol a biolegol
Mae Cynllun Cyflawni'r Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru (2006) yn ymrwymo i gomisiynu ymchwil i fuddiannau seicolegol chwarae a ddewisir yn rhydd.
Mae'r Athro Fraser Brown wedi cynhyrchu taflen wybodaeth ar gyfer Chwarae Cymru (2003) sy'n cynnig diffiniad o amddifadedd chwarae ac mae’n archwilio ei effaith a’r oblygiadau ar gyfer cymdeithas. Wrth dynnu ar ei ymchwil a’i brofiadau ei hun mae’r awdur yn archwilio canlyniadau amddifadedd chwarae llwyr a photensial gwaith chwarae.
Lawrlwytho taflen wybodaeth Amddifadedd chwarae: ei effaith, y canlyniadau a photensial gwaith chwarae | gweld ar-lein
Mae Bob Hughes, awdur ac ymchwilydd ar chwarae plant hefyd yn archwilio'r cysyniad mewn taflen wybodaeth a gynhyrchwyd ar gyfer Chwarae Cymru yn 2003.
Lawrlwytho'r daflen wybodaeth Amddifadedd chwarae | gweld ar-lein