Mae darpariaeth chwarae o safon yn cynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i ryngweithio'n rhydd gan brofi'r canlynol:
plant a phobl ifanc eraill - gyda'r dewis i chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, i drafod, cydweithio, anghytuno, a datrys anghydfod
y byd naturiol - y tywydd, y tymhorau, llwyni, coed, planhigion, pryfetach, anifeiliaid, mwd
rhannau rhydd - deunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin, eu symud a'u haddasu, adeiladu a chwalu
yr elfennau naturiol - daear, awyr, tân a dŵr
her a mentro - ar lefel corfforol ac emosiynol
chwarae gyda hunaniaeth - chwarae rôl a gwisgo i fyny
symud - rhedeg, neidio, dringo, balansio, rholio
sgarmes - chwarae ymladd
y synhwyrau - sŵn, blas, ansawdd, arogl, golwg
teimladau - poen, llawenydd, hyder, ofn, dicter, bodlondeb, diflastod, diddordeb, hapusrwydd, galar, gwrthodiad, derbyniad, tristwch, balchder, rhwystredigaeth