Wrecsam - Asesiad Digonolrwydd Chwarae Cyntaf

Mae’r astudiaeth achos yma’n disgrifio’r arddull a fabwysiadwyd ar gyfer asesiad digonolrwydd chwarae cyntaf Wrecsam, yn hytrach nag union ganfyddiadau’r gwaith ymchwil hwnnw.

O’r cychwyn cyntaf, mabwysiadodd Wrecsam agwedd egwyddorol tuag at fynd i’r afael â’r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae, oedd yn cynnwys mesur boddhad goddrychol pobl, ac yn enwedig boddhad plant, fel dangosydd o ddigonolrwydd, h.y. a yw plant yn adrodd eu bod yn teimlo fel bod ganddynt fynediad i ddigon o le ac amser ar gyfer chwarae?

Arweiniodd Tîm Datblygu Chwarae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar yr asesiad digonolrwydd chwarae, mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr, ac fe’u cefnogwyd gan ein hadran Perfformiad a Datblygiad. Cytunwyd ar yr amcanion canlynol ac maent yn disgrifio nod yr asesiad:

  • I sefydlu gwaelodlin o ran y canran o blant a phobl ifanc sy’n adrodd eu bod yn fodlon a’u gallu i gael mynediad i amser a lle i chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd.
  • I glustnodi cynrychioliadau o ddigonolrwydd chwarae a’r amodau cymdeithasol a ffisegol sy’n cefnogi hyn.
  • I ddynodi ardaloedd daearyddol sydd â diffyg digonolrwydd a’r rhesymau posibl am hyn.
  • I ddefnyddio’r data a gynhyrchir i ddatblygu dangosyddion ar gyfer asesu digonolrwydd chwarae mewn ardaloedd eraill.
  • I ddynodi cyfleoedd ar gyfer hyrwyddo amser a lle ar gyfer chwarae, yn yr ardaloedd hynny sydd â diffyg digonolrwydd, ac argymell ymyriadau priodol.

 

Er mwyn darparu fframwaith ar gyfer ein gwaith ymchwil (a gan ddilyn arweiniad gan Gylchoedd Manceinion[1] Stuart Lester a Wendy Russell) fe wnaethom addasu arddull systemau ecolegol Bronfenbrenner[2] i ystyried y fforddiannau ar gyfer chwarae a gyflwynir gan amgylchedd y cartref / teulu, sut y caiff y rhain eu heffeithio gan, a sut y byddant yn eu tro’n effeithio ar y fforddiannau a geir yng nghymdogaeth leol y plentyn, a sut y caiff hyn i gyd ei effeithio gan y cyd-destun ehangach y mae’r gymuned yn bodoli ynddo.

Gan dynnu ar waith Kytta[3], fe wnaethom gymhwyso’r cysyniad o feysydd gweithredu rhydd, a hyrwyddir ac a gyfyngir i bob un o’n llinynnau ymchwilio er mwyn ystyried sut y mae’r rhain yn effeithio ar allu plant i gyflawni (gwneud gwir ddefnydd o) y fforddiannau posibl ar gyfer chwarae sy’n bodoli mewn cymuned leol. Yn y model hwn mae maes a gyfyngir yn cyfeirio at amser, gofod, mynediad neu agweddau sy’n atal gweithgarwch a gyfarwyddir yn bersonol gan blentyn; meysydd a hyrwyddir sy’n rheoleiddio gweithgarwch plant (h.y. maent yn hybu ffurfiau penodol o ymddygiad); ac mae meysydd rhydd yn caniatáu ar gyfer gweithgarwch rhydd plant. Daeth y plant fu’n rhan o’r ymchwil yma i adnabod y rhain fel meysydd gweithgarwch coch, melyn a gwyrdd.

Er mwyn ein galluogi i gynnal asesiad manwl ac effeithlon, defnyddiwyd dulliau ymchwil cymysg i gasglu data meintiol yn ogystal â data ansoddol, ac i sicrhau manyldeb, hygrededd, didwylledd ac, i raddau, natur drosglwyddadwy yn y wybodaeth a gynhyrchwyd.

Fe gynhyrchodd yr ymchwil meintiol raddfa ymateb sylweddol, wnaeth ein helpu i sefydlu’r lefelau boddhad cyffredinol o ran cyfleoedd ar gyfer chwarae ar draws y fwrdeistref sirol.

Fe ddarparodd y data ansoddol fwy o fanylion, wnaeth ein galluogi i ddynodi sut y caiff lefel boddhad pobl ei effeithio gan amodau cymdeithasol a ffisegol lleol. Er mwyn cyflawni hyn, datblygwyd yr offer ymchwilio canlynol:

  • Gwaith grŵp wedi ei hwyluso mewn ysgolion, gan ddefnyddio arddull mosäig - dosbarth o blant o ysgol gynradd ym mhob un o chwe chymuned astudiaeth achos yn cwmpasu cyfanswm o 10 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs). Cafodd y cymunedau hyn eu dethol i gynrychioli amrywiol lefelau o amddifadedd, dwysedd poblogaeth, trefoli, mannau agored a darpariaeth chwarae.
  • Holiaduron ar-lein - ar gyfer plant, pobl ifanc, rhieni, a gweithwyr gwaith chwarae a gofal plant proffesiynol.
  • Grwpiau ffocws - gyda rhieni, gweithwyr proffesiynol a grwpiau ymylol eraill.
  • Archwiliadau cymunedol o fannau ar gyfer chwarae - datblygwyd, a defnyddiwyd, offeryn archwilio ar gyfer ystyried hygyrchedd a gwerth chwarae ar 49 o safleoedd ar draws y chwe chymuned astudiaeth achos gan weithwyr gwaith chwarae proffesiynol. Cafodd dwsin o’r safleoedd hyn eu croeswirio gan blant er mwyn cymharu canlyniadau.
  • Cyfweliadau lled-strwythuredig - gydag uwch-weithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â meysydd polisi a ddynodwyd yng nghanllawiau statudol digonolrwydd chwarae.
  • Mapio demograffeg, gofodau a gwasanaethau - casglwyd data o’r adrannau Perfformiad a Datblygiad, Cynllunio, Addysg, Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd, Amgylchedd a Hamdden.

 

Un o egwyddorion eraill yr ymchwil oedd cefnogi cyfranogaeth ddeallus plant, ac i sicrhau bod eu safbwyntiau’n derbyn o leiaf yr un ystyriaeth â barn oedolion. Felly, yn ystod y gwaith o ddadansoddi data, rhoddwyd pwyslais ar y wybodaeth a ddarparwyd gan blant, gan ddechrau gyda’r gwaith grŵp wedi ei hwyluso o ysgolion ac yna cymharu hyn â chanlyniadau holiaduron ar-lein y plant. Fe wnaeth hyn ein galluogi i gadarnhau’r canfyddiadau a ddatblygwyd o’r offer ansoddol yn erbyn y rheini o’r data meintiol, gan sicrhau mwy o hygrededd i’n casgliadau. Yna, cafodd y themâu a dynnwyd o’r broses hon eu croesgyfeirio, eu cadarnhau a’u hychwanegu i ffurfio’r data a gynhyrchwyd gan rieni ac oedolion eraill.

Yr her fwyaf oedd yr amser oedd ar gael ar gyfer cwblhau’r asesiad. Yn benodol, nid oedd digon o amser i ddatblygu a phrofi ein hoffer ymchwilio a darparu’r lefel angenrheidiol o hyfforddiant ar gyfer y cynorthwywyr ymchwilio i sicrhau cysondeb wrth eu rhoi ar waith. Yn ogystal, fe wnaeth y wasgfa amser a’r adeg o’r flwyddyn bethau’n anoddach o ran gweithio gyda rhieni ac ysgolion, ac arweiniodd hyn at fylchau yn y broses o gasglu data. At hynny, er bod ystod eang o bartneriaid yn rhan o’r broses, cafwyd enghreifftiau ble roedd adrannau eraill o’r awdurdod lleol a rhai asiantaethau partner wedi eu tangynrychioli, neu ble roedd angen lefel uchel iawn o ymdrech i sicrhau eu cyfranogaeth. Yn seiliedig ar y canfyddiadau o’n hymchwil, mae hyn i gyd yn darparu tystiolaeth bellach bod unigolion a sefydliadau’n ei chael yn anodd i flaenoriaethu adnoddau amser ar gyfer cefnogi chwarae.

Daeth Asesiad Digonolrwydd Chwarae (PSA) cyntaf Wrecsam i ben trwy ddatgan, tra bo angen cynnal y cyfleusterau a’r gwasanaethau chwarae wedi eu staffio a heb eu staffio presennol, fel cydnabyddiaeth i’r cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i ddigonolrwydd chwarae, roedd angen gosod mwy o bwyslais ar hybu chwarae plant yn y fro gyhoeddus ehangach. Roedd hyn yn golygu gweithio’n well i feithrin yr amodau amgylcheddol a chymdeithasol sy’n cefnogi mynediad plant i amser, lle a chaniatâd i chwarae yn eu cymunedau lleol, ar sail ddyddiol. Dynodwyd 12 o flaenoriaethau sy’n cefnogi’r agwedd yma trwy’r broses asesu ac, yn ddiweddarach, cymeradwywyd y rhain gan fwrdd gweithredol yr awdurdod lleol. Ers hynny, mae’r blaenoriaethau hyn wedi darparu ffocws ar gyfer gwaith wrth sicrhau amser a lle digonol ar gyfer chwarae plant.

Am fwy o wybodaeth ar asesiad digonolrwydd chwarae cyntaf Wrecsam a’r 12 blaenoriaeth, ymwelwch â gwefan Wrecsam i wylio’r fideo.

[1] Play England (2008), Quality in Play. Llundain: NCB

[2] Bronfenbrenner, U. (1979), The Ecology of Human Development: Experiments by Nature and Design. Cambridge, MA: Harvard University Press.

[3] Kytta, M. (2003) Children in Outdoor Contexts. Affordances and Independent Mobility in the Assessment of Environmental Child Friendliness, Canolfan Astudiaethau Trefol a Rhanbarthol, Prifysgol Technoleg Helsinki.

Cofrestru i dderbyn y diweddaraf ar chwarae plant a gwaith chwarae yn rheolaidd

Communication Preferences

Please state how you would prefer to be contacted.
To view our privacy policy, click here.