Wrecsam - Prosiect Amser Gwyrdd

Yn ystod y broses o gwblhau asesiad digonolrwydd chwarae cyntaf Wrecsam, cynhaliodd Tîm Datblygu Chwarae’r cyngor waith ymchwil gyda dros 160 o blant mewn ysgolion cynradd.

Wrth drafod yr amser y byddent yn ei dreulio mewn mudiadau neu glybiau gaiff eu rhedeg gan oedolion (er enghraifft ysgolion, gofal plant a sesiynau chwaraeon), mabwysiadodd y plant system goleuadau traffig er mwyn helpu i egluro eu profiad goddrychol o chwarae:

  • Coch – roedd yr oedolion yn or-gaeth a ddim mor gefnogol o’u hawydd i chwarae.
  • Melyn – roedd yr oedolion yn tueddu i hybu ffurfiau penodol o chwarae, oedd yn golygu y gallai’r plant chwarae mewn rhai, os nad y cyfan, o’r ffyrdd yr oeddent yn dymuno.
  • Gwyrdd – roedd y plant yn ystyried eu bod yn gwbl rydd o rwymedigaeth oedolion ac yn teimlo mai dyma’r amgylchiadau oedd fwyaf ffafriol i’w galluogi i chwarae.

 

Cafodd hyn ei egluro’n berffaith gan un bachgen ifanc a ddywedodd: ‘Alli di fyth gael digon o Amser Gwyrdd’.

Mae’r prosiect Amser Gwyrdd yn rhaglen datblygu polisi tymor hir ar gyfer ysgolion a lleoliadau gofal plant y tu allan i’r ysgol a drosglwyddir gan Dîm Datblygu Chwarae, Cyngor Wrecsam. Cyflwynwyd y prosiect yn benodol mewn ymateb i Flaenoriaeth 8 o Asesiad Digonolrwydd Chwarae cyntaf Wrecsam, sy’n nodi’r angen i ‘wella profiad goddrychol plant o amser a gofod’.

Y nod yw gwella profiad goddrychol plant ac oedolion o chwarae’n y lleoliadau hyn, trwy ddatblygu polisi chwarae sy’n canolbwyntio ar y plentyn a hybu agwedd mwy ystyriol tuag at gefnogi a hwyluso chwarae plant. Mae’r rhaglen ei hun yn cynnwys cyfres o sesiynau mentora a drosglwyddir dros gyfnod o 12 mis, sy’n cynnwys elfennau o hyfforddiant ar ddamcaniaethau chwarae cyfoes, cynllunio ar gyfer chwarae, rheoli risg ac arfer myfyriol.  

I ddechrau, arianwyd y prosiect gan Dîm Gofal Plant Cyngor Wrecsam (rhan o’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd) a chynhaliwyd peilot ohono gyda nifer o glybiau y tu allan i’r ysgol. Sicrhaodd llwyddiant y peilot yma bod y prosiect, sydd ar fin croesawu ei drydedd carfan, wedi parhau i gael ei ariannu fel hyn. Wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, cafodd y prosiect ei ehangu i gynnwys ysgolion. Yn y cychwyn, trosglwyddwyd y rhaglen ysgolion a’r rhaglen y tu allan i’r ysgol ar wahân, ond y bwriad ar gyfer y flwyddyn nesaf yw eu cyfuno er mwyn hybu agwedd fwy cydlynol rhwng y ddau fath o leoliad.

Er mwyn hyrwyddo’r prosiect a dynodi lleoliadau fyddai, o bosibl, yn elwa, rydym wedi cydweithio’n agos â’r Tîm Gofal Plant ac uned Ysgolion Iach, Cyngor Wrecsam. Hyd yma, rydym wedi mentora saith o glybiau’r tu allan i’r ysgol a phedair ysgol. Yn ogystal, mae dau Swyddog Datblygu Gofal Plant wedi mynychu’r sesiynau mentora dros y 12 mis diwethaf. Mae’r adborth wedi bod yn hynod o gadarnhaol:

‘Rydyn ni wir yn mwynhau’r cwrs Amser Gwyrdd, rydyn ni’n teimlo ei fod yn hynod o ddiddorol a buddiol i’n gweithle.’ (Gweithwyr Chwarae, clwb y tu allan i’r ysgol)

‘Bydd yn fy ngalluogi i gefnogi gweithwyr chwarae yn y clybiau’r tu allan i’r ysgol.’ (Swyddog Datblygu Gofal Plant)

‘Wir wedi mwynhau (y cwrs). Cael ei drosglwyddo gan weithiwr chwarae profiadol a llawn gwybodaeth. Grŵp da ble y gallodd pawb siarad yn agored.’  (Rheolwr clwb y tu allan i’r ysgol)

Mae’r rhaglen wedi annog cyfranogwyr i fabwysiadu agwedd wahanol tuag at greu gofodau ble y gall plant chwarae. O ganlyniad, dynodwyd enghreifftiau o newidiadau amgylcheddol. Yn ogystal, mae’r ysgolion wedi derbyn cymorth i gyfoethogi’r amgylchedd ffisegol trwy gynnwys y defnydd o rannau rhydd (hen ddeunyddiau).

Er mwyn sicrhau bod gan yr ysgolion rywle i storio’r rhannau rhydd, darparwyd tair cist storio fawr ar eu cyfer. Gosodwyd coesau nwy ar gaeadau’r bocsys am resymau diogelwch a gellid eu cloi a’u hangori i’r llawr, os oedd yr ysgol yn teimlo bod angen gwneud hynny. Trosglwyddodd y Tîm Datblygu Chwarae hyfforddiant rheoli risg ac arweiniad i gynorthwyo ysgolion i gyflwyno rhannau rhydd. Yn y pen draw, cyfrifoldeb yr ysgol oedd dod o hyd i a chynnal y rhannau rhydd. Unwaith bod yr ysgolion yn teimlo’n ddigon hyderus i ddefnyddio’r adnoddau hyn yn ystod amser chwarae, fe’i cyflwynwyd i effaith cadarnhaol.  

Er gwaetha’r newidiadau amlwg i’r amgylchedd chwarae, nid cyflwyno’r rhannau rhydd oedd yr elfen fwyaf allweddol i wella’r amodau ar gyfer chwarae mewn ysgolion a chlybiau’r tu allan i’r ysgol. Yn hytrach, datblygiad polisi chwarae fu’n bennaf gyfrifol am sicrhau newid yn agwedd ac arfer y staff i ganiatáu i fwy o gyfleoedd chwarae (gan gynnwys y defnydd o rannau rhydd) ddigwydd.   

‘Trwy’r (ddamcaniaeth) chwarae sylfaenol, bu modd inni greu ein polisi chwarae ein hunain yr ydym yn awyddus i’w weithredu ar unwaith … cyn y cwrs byddem wedi bod yn amharod i adael i’r plant chwarae’r tu allan ym mhob tywydd, ond nawr rydym yn deall pwysigrwydd sicrhau bod plant yn profi pob math o amodau a thywydd.’ (Gweithwyr Chwarae)

‘Mae’r prosiect wedi newid fy arfer proffesiynol a fy agwedd bersonol tuag at amser chwarae. Mae deall sut a pham y bydd plant yn dewis chwarae fel y maent wedi adlewyrchu ar fy rheolaeth o amser chwarae, fy nisgwyliadau a sut y byddaf yn rhyngweithio gyda’r ‘plentyn sy’n chwarae’. Mae pawb ohonom yn ymddangos yn fwy hapus!’ (Athrawes)

Mae newidiadau mewn agwedd, fel y rhai a ddisgrifir yn y sylwadau uchod, wedi cael effaith sylweddol ar y cyfleoedd a’r fforddiannau chwarae y gall plant yn y lleoliadau hyn eu profi. 

Mae’r prosiect yn gweithio gyda’r plant i sicrhau gwaelodlin mewn ysgolion, gan gwrdd â dosbarth blwyddyn pump fydd ym mlwyddyn chwech erbyn diwedd y prosiect. Bydd y plant yn ychwanegu sylwadau cadarnhaol a negyddol am amser chwarae ar y wal graffiti. Byddant hefyd yn creu cymylau geiriau (tabl gyda chyfres o eiriau cadarnhaol a negyddol i ddisgrifio amser chwarae, gellir rhoi cylch am hyd at ddeg o eiriau) a holiadur sy’n ymarferol i blant. Caiff dadansoddiad cychwynnol o’r wybodaeth yma ei rannu ag athrawon. Pan fo’r prosiect wedi rhedeg am 12 mis, caiff yr un ymarferion eu hailadrodd a chaiff y canlyniadau eu cymharu.

Er gwaetha’r ffaith inni weld nifer o elfennau cadarnhaol ers creu’r prosiect Amser Gwyrdd, gwelwyd nifer o heriau hefyd a bu’n gymaint o broses ddysgu i’r Tîm Datblygu Chwarae ag y bu i’r cyfranogwyr.

Gan fod y prosiect, yn ei hanfod, yn ymwneud â datblygu diwylliant o oddefgarwch mewn ysgolion a chlybiau’r tu allan i’r ysgol, mae datblygu polisi chwarae (fydd yn galluogi i hyn ddigwydd) yn hanfodol. Fodd bynnag, bydd y polisi’n llawer llai effeithlon os na chaiff cynrychiolwyr sy’n mynychu’r sesiynau mentora’n eu galluogi i ddylanwadu ar newidiadau’n ôl yn eu lleoliadau.

Mae pawb yn gwybod bod ysgolion yn weithleoedd prysur ac, oherwydd pwysau ar amser, bydd ymrwymiadau gwaith eraill yn aml yn cael blaenoriaeth, fel y profwyd gan anghysondebau’n y lefel presenoldeb mewn sesiynau mentora.

Mae’r prosiect hwn yn gweithio orau pan fo’r cynrychiolwyr ag uwch-swydd reoli, gydag ymddiriedaeth a chefnogaeth y sefydliad i arwain ar ddatblygiadau. Yn ogystal, ble bo’r unigolyn hwn yn frwdfrydig a llawn ysgogiad am y fenter, mae canlyniadau cadarnhaol yn fwy tebygol o ddilyn. Er enghraifft, neilltuodd un athrawes lawer o amser ac ymdrech i’r prosiect gafodd effaith sylweddol, nid yn unig  ar ei harfer personol hi (fel y gwelwyd yn y sylw uchod), ond hefyd ar amserau chwarae’n yr ysgol yn gyffredinol. Bellach, mae’r plant yn elwa o agwedd fwy ymlaciol ymhlith yr oedolion yn ogystal â chyflwyniad rhannau rhydd. At hyn, defnyddiodd yr ysgol yma lawer o’r dystiolaeth a gynhyrchwyd gan y Prosiect Amser Gwyrdd i gwblhau eu gwobr Ysgolion Iach.

Cofrestru i dderbyn y diweddaraf ar chwarae plant a gwaith chwarae yn rheolaidd

Communication Preferences

Please state how you would prefer to be contacted.
To view our privacy policy, click here.