Mae pryder cynyddol ynghylch iechyd plant a phobl ifanc. Yn ogystal, mae cred cynyddol ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol bod chwarae yn gwneud cyfraniad sylweddol i ffitrwydd a lles plant.
Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod plant yn derbyn ymarfer corff estynedig ac eang yn ogystal â buddiannau iechyd meddwl sylweddol o chwarae. Er enghraifft:
- Bydd dringo yn datbygu cryfder, cydsymudiad, cydbwysedd a gallu i gymryd risg yn ogystal â hyder a hunan-barch;
- Bydd gemau rhedeg ac ymlid yn datblygu ffitrwydd, stamina ac ystwythder;
- Bydd neidio a rhedeg yn datblygu dwysedd esgyrn;
- Bydd chwarae ffantasi yn datblygu'r dychymyg a chreadigedd, ond gall hefyd fod yn fodd i blant wneud synnwyr o agweddau anodd a phoenus o'u bywyd;
- Gall chwarae fod yn hwyl ac yn ymlaciol, yn fodd o leddfu neu gael amser oddi wrth bryder a straen. Wrth chwarae, bydd plant a phobl ifanc yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol buddiol.
Bydd plant yn chwarae'n reddfol pryd bynnag y byddant yn cael cyfle, ond ni fydd pob plentyn yn dewis, neu'n gallu, cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu strwythuro. O gael y cyfle, yr amser, ac amgylchedd chwarae ysgogol a heriol, bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol buddiol.
Lawrlwytho taflen wybodaeth Chwarae: iechyd a lles
Lawrlwytho ein taflen wybodaeth Chwarae: iechyd meddwl a lles
Adnoddau pellach
Start Active, Stay Active: a report on physical activity from the four home countries' Chief Medical Officers (2011) Adran Iechyd
Physical activity guidelines for early years (under 5s) (2011) Adran Iechyd
Physical activity guidelines for early years (under 5s) - for children who are capable of walking (2011) Adran Iechyd
Physical activity guidelines for children and young people (5 - 18 years) (2011) Adran Iechyd
Making Children's Lives More Active (2004) Coleg y Brifysgol Llundain
Amddifadiad Chwarae (2003) Bob Hughes i Chwarae Cymru
Preventing Childhood Obesity (2005) Y Gymdeithas Feddygol Brydeinig
The health benefits of play and physical activity for disabled children and young people (2010) KIDS