Gall darpariaeth chwarae Mynediad Agored fod yn ddarpariaeth barhaol neu dymor byr, wedi ei leoli mewn amrywiol sefyllfaoedd sydd â neu sydd heb adeilad arno gan gynnwys canolfannau chwarae, meysydd chwarae antur, cynlluniau chwarae a pharciau.
Tra bo'r term Mynediad Agored yn ymwneud â darpariaeth gofrestredig ar gyfer plant dan 12 mlwydd oed, bydd darpariaeth o'r fath fel arfer yn darparu ar gyfer ystod eang o blant, gan gynnwys rhai dros 12 mlwydd oed.
Pwrpas y ddarpariaeth yw darparu cyfleoedd chwarae wedi eu staffio ar gyfer plant, a hynny fel arfer heb eu rhieni'n bresennol. Ni cheir cyfyngiadau ar symudiadau'r plant, ar wahân i sefyllfaoedd sy'n berthnasol i faterion iechyd, ac ni rwystrir y plant rhag mynd a dod fel y dymunant. Caiff plant y rhyddid i ddewis yr ystod o weithgarwch chwarae yr hoffent ei fwynhau a gyda phwy i chwarae.
Mae Llywodraeth Cymru'n diffinio chwarae fel ymddygiad: a ddewisir yn rhydd, a gyfarwyddir yn bersonol ac a gymhellir yn gynhenid ac a gaiff ei berfformio am ddim nod na gwobr allanol. Hynny yw, bydd plant a phobl ifanc yn pennu ac yn rheoli cynnwys a bwriad eu chwarae trwy ddilyn eu greddf, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain am eu rhesymau eu hunain.
O ganlyniad i weithredu Ddeddf Plant 1989 cafodd darpariaeth chwarae ar gyfer plant o dan wyth mlwydd oed ei ddiffinio gan y lefel o ofal a ddarperir a chafodd darpariaeth chwarae yn gyffredinol ei ddisgrifio fel darpariaeth mynediad agored. Cafodd yr oedran uchaf ar gyfer gofal plant wedi ei gofrestru yng Nghymru ei ymestyn o 8 oed i 12 oed ar 1 Ebrill 2016.
Oherwydd y dryswch ynghylch chwarae a gofal plant, yn aml iawn caiff Mynediad Agored ei ddefnyddio'n anghywir i ddisgrifio darpariaeth chwarae sydd heb ei staffio. Ond mae'r term Mynediad Agored yn ymwneud yn unig â'r lefel o ofal a ddarperir i blant o fewn sefyllfa sydd wedi ei staffio.
Mae Chwarae Cymru'n credu y dylid cynnal Erthygl 31 o Gytundeb y Cenhedloedd Unedig a'r Hawliau'r Plentyn yng Nghymru (UNCRC), a gan ei bod yn hawl na ddylai mynediad plant i ddarpariaeth gael ei bennu gan eu gallu i dalu ac na ddylid cael unrhyw amodau mynediad eraill ar wahân i rai sy'n ymwneud â diogelwch a lles yr unigolyn ac eraill.
Lawrlwytho Safonau Gofynnol Cenedlaethol