Mae chwarae yn rhan hanfodol o blentyndod hapus ac iach. Er gwaetha’r pandemig coronafeirws, bydd plant yn dal angen ac eisiau chwarae. Mae chwarae’n helpu plant i reoli eu hemosiynau a gwneud synnwyr o’u sefyllfa.
Rydym i gyd eisiau parhau i gefnogi plant yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol i gefnogi chwarae plant yn ystod y pandemig Covid-19 ac wrth i ni ddod o’r cyfyngiadau yn raddol. Mae’r rhan fwyaf o rieni hefyd yn treulio mwy o amser gartref gyda’u plant ar hyn o bryd.
I helpu ymarferwyr a rhieni i sicrhau fod gan blant ddigon o amser, lle a rhyddid i chwarae rydym wedi cyhoeddi amrywiaeth i adnoddau ymarferol a chefnogol:
Gwybodaeth ar gyfer rheini sy’n gweithio â phlant
Mae cydweithwyr mewn mudiadau ledled y DU a thu hwnt hefyd wedi rhyddhau nifer o gyhoeddiadau a blogiau i gefnogi’r sector, yn ogystal â rhieni.
Mae nifer o fudiadau yn brysur yn cynnal ymchwil i effaith Covid-19 ar fywydau plant – mae rhywfaint o’r canfyddiadau eisoes wedi cychwyn cael eu dadansoddi a’u cyhoeddi.
Gwybodaeth gan fudiadau sy’n cefnogi chwarae a gwaith chwarae
Byddwn yn parhau i ychwanegu i’r adran hon o'r wefan wrth i ni ddatblygu adnoddau newydd fel rhan o’n hymateb cefnogol i’r pandemig.