-
Agor strydoedd ar gyfer chwarae
Pecyn cymorth ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid yng Ngymru
Mae’r pecyn cymorth Agor strydoedd ar gyfer chwarae wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth glir a chryno am brosiectau chwarae stryd ar gyfer cynghorau yng Nghymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth fydd yn eich helpu, gobeithio, i ddeall a mynd i’r afael â materion o bwys ac mae’n cynnwys templedi ac offer bob yn gam, ymarferol i helpu i chwarae stryd ddigwydd.
Bwriedir i’r pecyn cymorth hwn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau i alluogi prosiectau chwarae stryd wedi eu harwain gan drigolion yn eu hardaloedd. Bydd yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer cymdeithasau tai, cymunedau ysgolion, gweithwyr cymunedol a thrigolion lleol i ddeall y cyfleoedd a’r heriau.
Datblygwyd y pecyn cymorth hwn gan Chwarae Cymru mewn cydweithrediad â Playing Out – y mudiad sy’n cefnogi chwarae stryd trwy’r DU. Mae’r pecyn cymorth a’r adnoddau yn seiliedig ar Raglen Beilot Chwarae Stryd Caerdydd, yn ogystal a’r symudiad chwarae stryd ledled y DU ac mae’n cyfeirio at becyn cymorth Playing Out – Toolkit for Local Authorities.
Gweld ar-lein Lawrlwytho -
Sut i drefnu sesiynau chwarae’r tu allan ar dy stryd
Mae Chwarae Cymru’n cefnogi mentrau sy’n adennill y strydoedd a chymdogaethau er mwyn i blant a phlant yn eu harddegau allu crwydro a chwarae.
Rydym wedi gweithio gyda Playing Out – mudiad gaiff ei arwain gan rieni a thrigolion sy’n gweithio i hyrwyddo chwarae stryd – i gynhyrchu canllawe a deunyddiau i gefnogi rhieni i drefnu sesiynau chwarae ar eu stryd.
Mae Sut i drefnu sesiynau chwarae’r tu allan ar dy stryd yn ganllaw gam bob yn gam ar gyfer trefnu sesiynau chwarae ar y stryd, yn seiliedig ar brofiad rhieni a thrigolion ledled y DU.
Mae hwn yn fersiwn o ganllaw Playing Out ar gyfer trigolion yng Nghymru.
Deunyddiau cefnogol:
10 rheswm da dros chwarae ar y stryd
Templed llythyr dyddiadau cau chwarae stryd
Templed llythyr cyfarfod cymdogion chwarae stryd
Templed poster cadarnhau chwarae stryd
Gweld ar-lein Lawrlwytho