-
Llyfrgell Chwarae Cymru
Lleolir Llyfrgell Chwarae Cymru yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd. Mae gennym hefyd gasgliad llai o lyfrau ac adnoddau cyfeiriol yn y llyfrgell ym Mhrifysgol Glyndwr yn Wrecsam.
Credwn mai hwn yw'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o lyfrau ar chwarae plant a darpariaeth chwarae yng Nghymru. Mae'n adnodd allweddol ar gyfer gweithwyr chwarae, athrawon, hyfforddwyr, myfyrwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb ym maes chwarae plant.
Mae gennym gasgliad o ddeunydd cyfredol ac allan o brint ar ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â phlant a chwarae - o theori chwarae a datblygiad plant, i adeiladu ty pen coeden.
Mae croeso cynnes i ymwelwyr a grwpiau bychain o fyfyrwyr - cysylltwch â'n Rheolwraig Cyfathrebiadau i drefnu ymweliad a byddwn yn falch i'ch helpu. Ceir cornel dawel i bori ac astudio. Mae gennym gyfleusterau llungopio sy'n gweithredu o fewn y ddeddf hawlfraint. Ni allwn fenthyca llyfrau ar hyn o bryd.