-
Gweld ar-lein Lawrlwytho Adnoddau ar gyfer chwarae - darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant - pecyn cymorth
Datblygwyd y pecyn cymorth Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant i gefnogi oedolion yn y sectorau chwarae, blynyddoedd cynnar ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd yn eu lleoliadau.
Mae rhannau rhydd yn creu amgylcheddau cyfoethocach i blant chwarae, gan roi’r adnoddau iddynt y maent eu hangen i ymestyn eu chwarae. Mae amgylcheddau y gellir eu trin a’u trafod, ble y bydd pethau’n symud a ble gellir eu symud, yn agor bydoedd o bosibiliadau i blant chwarae ac archwilio.
Nodau’r pecyn cymorth
- I gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gwerth rhannau rhydd i chwarae plant
- I ddarparu arweiniad ymarferol ynghylch chwarae rhannau rhydd i’r rheini sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o bob oed
- I eiriol dros ddefnyddio rhannau rhydd fel dull ar gyfer datblygu cyfleodd chwarae yn y cartref, yr ysgol ac yn y gymuned.
Bydd y pecyn cymorth yn ddefnyddiol ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn llawer o fathau o leoliadau yn cynnwys ysgolion, iechyd, y blynyddoedd cynnar a lleoliadau gofal plant, ac ar gyfer sefydliadau sy’n ymgysylltu â phlant a theuluoedd.
Trwy’r pecyn cymorth yma rydym wedi cynnwys enghreifftiau a dyfyniadau o leoliadau sy’n defnyddio rhannau rhydd fel rhan o’u darpariaeth ar gyfer chwarae. Mae’r rhain wedi eu casglu o amrywiaeth o leoliadau yn cynnwys y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ysgolion a phrosiectau cymunedol. Gan fod yr arddull sylfaenol yn aros yr un fath, bydd yn hawdd iawn cymhwyso’r enghreifftiau a gyflwynir i wahanol gyd-destunau, amgylcheddau ac oedrannau ac i gynnwys plant sydd angen cefnogaeth ychwanegol.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar Loose Parts Play A toolkit, a gyd-ysgrifennwyd gan Theresa Casey a Juliet Robertson. Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan Inspiring Scotland, mewn cydweithrediad â Gr?p Strategaeth Chwarae Yr Alban a’i ariannu gan Lywodraeth Yr Alban. Rydym wedi ei addasu, gyda’u caniatâd caredig, i adlewyrchu’r cyd-destun a’r cefndir cyfreithiol yng Nghymru.
Adnodd ychwanegol
Chwilio am ddeunyddiau ar gyfer chwarae plant - mae’r daflen wybodaeth hon yn archwilio’r mathau o bethau y gallem ystyried chwilio neu lloffa amdanyn nhw, awgrymiadau ar sut i fynd ati i gynyddu ein cyfleoedd i lwyddo, pwy allai ein helpu o bosibl, yn ogystal â straeon a chynghorion oddi wrth loffwyr arbenigol o bob cwr o Gymru.