-
Polisi cymeradwyo llyfrau
Bydd Chwarae Cymru'n derbyn ceisiadau gan awduron a chyhoeddwyr i gymeradwyo llyfrau yn unol â'r cafeatau isod:
- Dylid darparu'r llyfr neu'r llawysgrif yn rhad ac am ddim.
- Bydd yn rhaid i dîm Chwarae Cymru, o ystyried eu llwyth gwaith, fod ag amser ar gael i ddarllen y llyfr neu'r llawysgrif erbyn y dyddiad cau a bennwyd.
- Wedi darllen y llyfr neu'r llawysgrif, bydd Chwarae Cymru'n cadw'r hawl i wrthod ei gymeradwyo a byddant ond yn darparu beirniadaeth i'r awdur neu'r cyhoeddwr pe byddai hynny'n ddefnyddiol i amcanion Chwarae Cymru.
Bydd Chwarae Cymru'n cymeradwyo llyfr neu lawysgrif ble ei fod:
- Yn portreadu plant, chwarae plant a gwaith chwarae mewn golau gwrthrychol neu gadarnhaol.
- O safon sy'n debygol o ymestyn diddordeb ac uchelgeisiau'r sector chwarae.
- Yn cydberthyn yn uniongyrchol â chwarae plant a / neu bobl ifanc, gwaith chwarae neu ddarpariaeth chwarae.
I geisio am gymeradwyaeth llyfr cysylltwch â'n Tîm Cyfathrebiadau.