-
Gweld ar-lein Lawrlwytho Cefnogi chwarae plant mewn ysgolion
Gofynnwyd i lawer o athrawon dreulio rhywfaint o amser yn canolbwyntio ar eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) tra bo ysgolion ddim yn dilyn eu hamserlen arferol.
Mae Chwarae Cymru, fel nifer o bobl eraill, yn galw am flaenoriaethu chwarae plant a chymdeithasu gyda ffrindiau pan fydd ysgolion yn ail-agor, a phan gaiff cyfyngiadau eu llacio.
I helpu gyda hyn rydym wedi rhoi rhestr o adnoddau argymelledig at ei gilydd ar gyfer meddwl am chwarae yn yr ysgol. Mae’r rhestr ddarllen yn fan cychwyn ar gyfer myfyrio a DPP ar gyfer y rheini sydd â diddordeb gwella cyfleoedd plant i chwarae yn yr ysgol.