Fforwm Gweithwyr Chwarae
Aelodau £45 | Ddim yn aelod £100
Dyddiad: 22-06-2022 | Lleoliad: Y Glôb Helyg, Rhaeadr, Powys |
Dyddiad Gorffen: 23-06-2022 | Trefnydd: Chwarae Cymru |
** LLAWN **
Os hoffech chi gael eich hychwanegu i restr aros, rhag ofn y bydd lle ar gael, ebostiwch ni os gwelwch yn dda
Mae’r Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ddigwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae preswyl, deuddydd o hyd dan gynfas sy’n rhoi cyfle i weithwyr chwarae ddysgu oddi wrth ei gilydd a hyfforddwyr gwaith chwarae profiadol.
Pwy ddylai fynychu?
Anelir y digwyddiad at weithwyr chwarae, gweithwyr datblygu chwarae, rheolwyr gwaith chwarae, ymarferwyr ysgolion fforest a gweithwyr gofal plant a phawb sydd am gynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth am waith chwarae, yn enwedig y tu allan.
Prisiau cyfranogwyr
Eleni gallwn gynnig pris gostyngol ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru.
- Ffi cyfranogwyr o Gymru – £45
- Ffi cyfranogwyr sy’n byw neu sy’n gweithio y tu allan i Gymru – £100
* Nodwch – os ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, ticiwch flwch 'Aelod Chwarae Cymru' i dderbyn y pris gostyngedig
Disgwylir i’r cyfranogwyr wersylla a bydd angen iddynt ddod â’u hoffer gwersylla eu hunain. Darperir diodydd poeth, ciniawau, brecwast a swper.