Mae gwaith chwarae yn broffesiwn. Bydd gweithwyr chwarae’n hyfforddi i wneud eu gwaith. Gall gweithwyr chwarae ymarfer ar nifer o wahanol lefelau a gallant ddilyn gwahanol lwybrau – o waith dros dro rhan-amser i swyddi parhaol llawn amser yn datblygu neu’n rheoli lleoliadau chwarae.
Er mwyn darparu cipolwg ar amrywiaeth y gweithlu chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru rydym wedi cyfweld ag ystod o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn gwahanol rolau. Bwriad cyfweliadau Dan y chwyddwydr… hefyd yw rhoi syniad o’r rolau swydd sydd ar gael i gefnogi chwarae plant.
- Matthew Jenkins, tiwtor gwaith chwarae gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
- Ben Thomas, y Cydlynydd Ieuenctid a Chymuned yng Nghanolfan Galw Heibio Llanharan yn Rhondda Cynon Taf
- Jade Tomlinson, Cydlynydd Chwarae’r Tu Allan o Gefnogaeth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC)
- Isobelle Hawkshaw, Gweithiwr Chwarae Cynllun Chwarae Cymunedol
- Ben Webb, Rheolwr Meithrinfa Awyr Agored Ashfield.
Bydd y Dan y chwyddwydr… nesaf yn ymddangos yn rhifyn y hydref Chwarae dros Gymru.