'Yr hawl i chwarae yw hawl cyntaf plentyn gan y gymuned. Chwarae yw hyfforddiant natur ar gyfer bywyd. Ni all unrhyw gymuned dresmasu ar yr hawl hwnnw heb wneud niwed parhaol i feddyliau a chyrff ei dinasyddion.' David Lloyd George
Nod cyhoeddiad Chwarae Cymru Yr Hawl Cyntaf ... fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae yw galluogi gweithwyr chwarae, ac unrhyw oedolion eraill sydd â diddordeb mewn chwarae plant, i dadansoddi, trwy arsylwi a myfyrio, yr amgylcheddau chwarae y maent yn eu gweithredu. Mae'n cynnig fframwaith ar gyfer asesu ansawdd yr hyn sy'n cael ei ddarparu a'i brofi.
Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr archwilio:
- natur yr hyn y mae plant yn ei wneud
- rolau datblygiadol a therapiwtig posibl chwarae
- rolau a swyddogaethau'r gweithiwr chwarae (neu oedolyn arall)
- y ffyrdd mwyaf priodol o ymyrryd yn y broses chwarae
- iaith a chysyniadau gwaith chwarae
Bwriedir i Yr Hawl Cyntaf ... gyflenwi gweithdrefnau sicrhau ansawdd eraill.
Lawrlwytho fframweithiau Yr Hawl Cyntaf
Mae Yr Hawl Cyntaf ar gael i'w brynu yn siop arlein Chwarae Cymru