Datblygodd Chwarae Cymru gymhwyster Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) er mwyn ymateb i anghenion y gweithlu chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru.
Bwriedir i L2APP ddarparu sail o wybodaeth dda am chwarae plant ac agwedd gwaith chwarae ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio wyneb-yn-wyneb gyda phlant mewn amrediad o leoliadau. Bwriedir iddo gyflawni anghenion:
- Ymarferwyr mewn lleoliadau gofal plant sydd am gynyddu eu dealltwriaeth am waith chwarae
- Cynlluniau chwarae gwyliau yn y gymuned.
Yn ogystal, gellir cynnig L2APP fel hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus neu opsiynol i ddarparu gwell dealltwriaeth ac arfer i ystod eang o staff sy’n gweithio i gefnogi chwarae ar gyfer plant hyd at 16 oed, yn cynnwys: goruchwylwyr amser cinio, gweithwyr ieuenctid, staff gofal plant, datblygu cymunedol a staff mewn ysbytai.
Y dyfarniad hwn yw’r cymhwyster lefel mynediad ar gyfer symud ymlaen i Agored Cymru - Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith.
Cynnwys
Mae L2APP yn cynnwys dwy uned:
- Uned 1 – Deall agwedd gwaith chwarae
- Uned 2 – Rhoi agwedd gwaith chwarae ar waith.
Mae’r uned ‘Rhoi agwedd gwaith chwarae ar waith’ yn seiliedig ar sgiliau ymarferol a bydd disgwyl i ddysgwyr gyflwyno ystod eang o dystiolaeth i arddangos eu meistrolaeth yn y gweithle.
Mae’r ddwy uned yn llawn cynnwys ar:
- Beth yw chwarae
- Pwysigrwydd chwarae
- Deddfwriaeth a pholisi
- Theori gwaith chwarae
- Ymyrraeth gwaith chwarae
- Rheoli risg
- Creu mannau ar gyfer chwarae
- Cynhwysiant
- Arfer myfyriol.
Dangos diddordeb
I gofrestru eich diddordeb mewn cyrsiau Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) gaiff eu rhedeg gan ein partner Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, cwblhewch ffurflen gais.
Trosglwyddo cyrsiau
Mae Chwarae Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i ddatblygu deunyddiau addysgu a dysgu ar gyfer trosglwyddo L2APP. Fydd y deunyddiau dysgu hyn ond ar gael ar gyfer cyrsiau gaiff eu rhedeg gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a chanolfannau a gymeradwywyd.
Er mwyn sicrhau ansawdd cadarn ar gyfer y cymhwyster newydd hwn, bydd Agored Cymru ond yn cymeradwyo canolfannau i drosglwyddo L2APP os ydynt wedi arwyddo trefniadau partneriaeth ar gyfer sicrhau ansawdd gyda Chwarae Cymru.
Os hoffech fwy o wybodaeth ar gael mynediad i’r cymhwyster L2APP neu ar ddod yn ganolfan drosglwyddo, mae croeso ichi ein e-bostio.
Ariannwyd datblygiad y cymhwyster gan Lywodraeth Cymru