Mae Gwaith Chwarae Lefel 1 Agored Cymru yn gwrs hyfforddiant rhagarweiniol ar gyfer pobl sydd am ennill gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae plant a sut y bydd gweithwyr chwarae’n gweithio â phlant.
Mae’r cwrs hwn yn un achrededig a bydd dysgwyr yn cwblhau llyfr gwaith yn y dosbarth. Fel cwrs rhagarweiniol, ni fydd hwn yn cymhwyso dysgwyr i weithio mewn lleoliad gwaith chwarae cofrestredig. Mae’r cwrs wedi ei anelu at:
- Staff sy’n gweithio â phlant hoffai gynyddu eu gwybodaeth am chwarae
- Pobl dan 16 oed hoffai wirfoddoli mewn lleoliad chwarae
- Rhieni
- Pobl sy’n dychwelyd i astudio hoffai symud ymlaen i gymhwyster Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP).
I gofrestru eich diddordeb mewn cyrsiau Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) sy'n cael eu rhedeg gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, cwblhewch ffurflen gais os gwelwch yn dda.