Bydd Pwysau Iach: Cymru Iach, strategaeth hir-dymor i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei drosglwyddo drwy amrywiaeth o atebion.
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2030 a thu hwnt yw ‘i bobl Cymru, a chenedlaethau’r dyfodol, gael y cychwyn gorau mewn bywyd a byw bywydau hirach, gwell a hapusach’.
Mae nifer o’r atebion yn canolbwyntio ar gyfleoedd plant i chwarae, gan gynnwys:
- Creu mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden a chwarae egnïol i deuluoedd a phlant, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, drwy gynyddu mynediad at ddarpariaeth chwarae o ansawdd uchel, datblygu llwybrau sy’n addas i deuluoedd a thrwy ddefnyddio ein seilwaith naturiol, gan gynnwys y parciau cenedlaethol.
- Bydd datblygiadau tai newydd yn cael eu cynllunio a’u hadeiladu i alluogi teithio, chwarae a hamdden egnïol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynllunwyr i roi blaenoriaeth i lwybrau cerdded a beicio cyflym, diogel, cyfleus sydd wedi’u cysylltu’n dda ar gyfer mynd i apwyntiadau iechyd a gofal, ysgolion a gwaith, lleoedd o ddiddordeb a chanol ein trefi.
- Mwy o fuddsoddi mewn cyfleusterau chwarae o ansawdd uchel sy’n targedu ardaloedd difreintiedig.
- Cefnogi a chynyddu ymyriadau sy’n hyrwyddo symudiad cynnar a phwysigrwydd chwarae mewn lleoliadau gofal plant.
Dywed Chwarae Cymru:
‘Rydym yn croesawu cyhoeddi Pwysau Iach: Cymru Iach a’i fod yn cydnabod pwysigrwydd chwarae plant ar gyfer plentyndod iach. Yn ein hymateb i’r ymgynghoriad a hysbysodd y strategaeth hon, fe alwodd Chwarae Cymru ar Llywodraeth Cymru i ystyried a rhoi ar waith yr argymhellion i wella chwarae egnïol yn adroddiad cerdyn Plant Egnïol Iach Cymru 2018. Mae Chwarae Cymru yn falch o weld bod ffyrdd fwy diogel, defnyddio tiroedd yr ysgol a mwy o ffocws ar agwedd ysgol gyfan tuag at iechyd a lles yn cael eu nodi yn y strategaeth hon.’