Ymchwil newydd: yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am chwarae yng Nghymru
20-11-2019

I ddathlu 30ain pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ar 20 Tachwedd 2019, rydym yn cyhoeddi’r adroddiad newydd hwn ble mae plant a phlant yn eu harddegau yn dweud wrthym yr hyn sy’n dda am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol a pha mor fodlon ydyn nhw ynghylch pryd, sut a ble y gallan nhw chwarae.
Mae ‘Rwy’n dysgu pethau newydd ac yn dringo coed’ – Yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am chwarae yng Nghymru yn dangos ar y cyfan, y darlun a gyflwynwyd gan blant ledled Cymru yw pan roddir caniatâd iddynt fynd allan, a phan allant chwarae yn y mannau yr hoffent, mae’r mwyafrif o blant yn hapus gyda’r dewis o fannau o safon dda a’u bod, ar y cyfan, yn fodlon gyda’u cyfleoedd chwarae. Er hynny, mae’n debyg bod nifer o ffactorau sy’n bwysig wrth gyfyngu ar hawliau plant ac allai fod yn achos niwed.
Daw’r data ar gyfer yr ymchwil o holiaduron a gwblhawyd gan bron i 6,000 o blant ar draws ardaloedd tri ar ddeg o awdurdodau lleol yng Nghymru fel rhan o’u Hasesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn 2019.
Cafodd y data ei goladu gyda chymorth Mike Welsby o Dîm Tystiolaeth a Dadansoddi Polisi, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn gan y Dr David Dallimore o Brifysgol Bangor ar gyfer Chwarae Cymru.