Yn ôl i Newyddion
Atal arolygiadau ar y cyd lleoliadau gofal plant nas cynhelir yn parhau
22-02-2021
Mewn datganiad ar y cyd, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn wedi cyhoeddi y bydd yr ataliad presennol ar arolygiadau ar y cyd o leoliadau gofal plant nas cynhelir yng Nghymru yn parhau tan 31 Awst 2021.
Bydd adolygiad o’r sefyllfa yn cael ei gynnal eto yn ystod yr haf er mwyn ystyried yr opsiynau ar gyfer ailddechrau’r rhaglen arolygu ar y cyd. Bydd AGC ac Estyn yn anelu i roi o leiaf chwech wythnos o rybudd i’r sector gofal plant cyn ailddechrau’r arolygiadau arferol ar y cyd.