Er mwyn ateb anghenion chwarae pob plentyn yng Nghymru a phawb sy’n gweithio ble mae plant yn chwarae, mae Chwarae Cymru wedi datblygu cyfres o gymwysterau, sef Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith neu P3.
Mae’r gyfres yn cynnwys cymwysterau Tystysgrif Lefel 2 a Diploma Lefel 3. Gellir trosglwyddo P3 yn Gymraeg neu Saesneg.
P3 - diweddariad - Cymwysterau Lefel 2 a 3
Mae ein cyfres newydd o gymwysterau gwaith chwarae’n ateb y gofynion cymwysterau ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae cofrestredig yng Nghymru.
Mae’r cymwysterau wedi eu dylunio i ddarparu llwybr cynnydd cymesur, effeithiol a chydlynol ar gyfer gweithwyr chwarae.
- Mae Agored Cymru – Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i waith chwarae a hwn yw’r gofyniad mynediad ar gyfer symud ymlaen i’r cymwysterau eraill yn y gyfres.
- Mae cymhwyster Agored Cymru – Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith wedi ei ddylunio i ateb anghenion gweithwyr chwarae wyneb-yn-wyneb, yn seiliedig ar adborth oddi wrth y sector.
- Y Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith yw’r cam ymlaen nesaf o’r Dystysgrif Lefel 2 ac mae wedi ei anelu at oruchwylwyr a rheolwyr gwaith chwarae. Mae’n cynnwys elfennau ar ddatblygu cymunedol, rheoli risg, deddfwriaethau a gweithio gyda theuluoedd.
Mae'r cymwysterau P3 Agored Cymru newydd wedi eu datblygu mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Maent yn disodli ein cymwysterau P3 blaenorol gyda’r Scottish Qualifications Authority.
Lawrlwytho Pam dewis gwaith chwarae - egwyddorion ar waith (P3)?
Os hoffech wybod mwy am P3, neu gofrestru eich diddordeb, mae croeso ichi ein e-bostio.