Mae ymgyrch Plentyndod Chwareus Chwarae Cymru yn anelu i helpu rhieni, gofalwyr a grwpiau cymunedol i gynnig mwy o gyfleoedd i blant chwarae yn eu cartref ac yn cymdogaethau.
Yn ganolog i’r ymgyrch hon mae gwefan Plentyndod Chwareus. Mae’n anelu i:
- Helpu rhieni a gofalwyr i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae yn eu cartref ac yn eu cymuned leol
- Gefnogi grwpiau lleol a chynghorau tref a chymunedol i gynnig cymdogaethau chwarae-gyfeillgar yn eu hardaloedd
- Gynnig adnoddau all gael eu defnyddio gan weithwyr proffesiynol yn eu gwaith â phlant a theuluoedd.
Mae gwefan Plentyndod Chwareus yn cynnig:
- Syniadau ymarferol am roi amser, lle a phethau i chwarae gyda nhw
- Awgrymiadau anhygoel, canllawiau ‘sut i’ a syniadau ar gyfer chwarae plant
- Gwybodaeth am gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae
- Canllawiau ar gyfer cynllunio ardal chwarae cymunedol
- Esiamplau o gymunedau a phrosiectau chwareus
- Dolenni i wybodaeth am gyfleoedd chwarae sydd ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru
- Blog sy’n cynnwys erthyglau rheolaidd gan westai arbenning a’r wybodaeth ddiweddaraf am chwarae plant.
Datblygwyd y wefan i gefnogi:
- Rhieni i roi cyfleoedd i’w plant chwarae
- Rhieni, fel eu bod yn teimlo’n hyderus ynghylch gadael i’w plant chwarae’r tu allan yn y gymuned
- Datblygu cymunedau chwareus ar gyfer plant ar hyd a lled Cymru
- Dealltwriaeth gyffredin o bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau gan bob oedolyn ledled Cymru.
Bydd y wefan hefyd yn ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol i gefnogi eu gwaith â phlant a theuluoedd. Efallai y bydd y rhannau canlynol o’r wefan yn ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio â phlant a theuluoedd, i’w rhannu gyda rhieni:
- Awgrymiadau ar gyfer magu plant yn chwareus – mae’n cynnwys delio ag amser sgrîn a chefnogi chwarae plant yn eu harddegau
- Canllawiau ‘Sut i Chwarae’ – mae’n cynnwys delio gyda chwarae poitshlyd a chwarae gwyllt
- Syniadau ar gyfer chwarae – syniadau syml a rhad ac am ddim i’w gwneud.
Ymweld â gwefan Plentyndod Chwareus