Mae Chwarae Cymru'n gweithio tuag at weld pob cymuned a chymdogaeth yn cefnogi ystod o gyfleoedd chwarae cynhwysol o safon fel bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru ddewis o fannau i gymdeithasu ac i chwarae yn ystod eu hamser rhydd.
Mae plant a rhieni’n adrodd am amrywiol rwystrau sy’n eu hatal rhag chwarae yn eu cymunedau fel y mae oedolion yn cofio ei wneud: ofnau ynghylch diogelwch, traffig, diffyg amser, llai o fannau i chwarae. Mae ein profiad yn dangos bod oedolion chwarae-gyfeillgar mewn cymunedau’n helpu i chwalu neu leihau’r rhwystrau hyn, sy’n golygu y gall mwy o blant gael mwy o ryddid i chwarae allan yn hyderus.
Trwy ein gwaith polisi ac eiriolaeth, rydym yn anelu i sicrhau bod gan blant a phobl ifainc Cymru le a chyfle i chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd, yn yr ysgol ac mewn gwasanaethau eraill, gartref a thrwy ofodau cyhoeddus.
’Dyw hyn ddim yn ymwneud â meysydd chwarae’n unig, mae’n golygu llawer mwy. Golyga hyn bopeth o strydoedd chwarae-gyfeillgar i feysydd chwarae antur wedi’u staffio, cynlluniau chwarae, ardaloedd chwarae lleol, ysgolion, gofal plant, ysbytai a hosbisau.
Byddwn yn gwneud hyn trwy:
-
gefnogi partneriaethau chwarae rhanbarthol
-
cynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo ansawdd
-
hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn darpariaeth chwarae.