Dywed Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru (2002):
'Trwy chwarae, sef y broses ddysgu sylfaenol, y mae’r ddynoliaeth wedi datblygu. Mae plant yn amlygu awydd greddfol i chwrae ac mae’n rhan annatod o’u hymddygiad. Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at oroesiad esblygiadol a datblygiadol ein rhywogaeth. Mae plant yn defnyddio chwarae yn yr amgylchedd naturiol i ddysgu am y byd y maent yn byw ynddo gydag eraill. Mae’n hanfodol i’r broses o ddysgu a thyfu, ac felly mae popeth a ddysgir drwyddo o fudd i’r plentyn.
'Y rhyddid hwnnw sy’n codi o chwarae a’r ffaith bod y plentyn yn ganolbwynt iddo sy’n ei gwneud yn broses mor effeithiol a chynhwysfawr.
'Mae’r datganiad polisi wedi’i seilio ar yr egwyddorion: bod hawl gan bob plentyn i ennyn parch am y cyfuniad unigryw o’i briodoleddau a’i alluoedd; y dylid parchu canfyddiadau, safbwyntiau a barn y plentyn bob amser gan fod pob plentyn yn perthyn i ddiwylliant ehangach.'
Polisi Chwarae Ysgol
Mae Chwarae Cymru’n argymell y dylai ysgolion sy’n dymuno darparu amgylchedd chwarae cyfoethog ar gyfer plant, fabwysiadu polisi chwarae. Mae polisi chwarae ysgol yn datgan y gwerth y bydd ysgol yn ei osod ar chwarae plant ac yn ymrwymo i gefnogi cyfleoedd chwarae plant.
Dylid rhannu’r polisi â’r plant, y staff a’r rhieni a dylid ei gynnwys ym mhrosbectws yr ysgol .
Rydym wedi creu esiampl o bolisi chwarae ysgol y gellid ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd neu ei addasu i weddu i anghenion penodol yr ysgol.
Lawrlwytho esiampl o bolisi chwarae ysgol